Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
25 Mehefin 2018
SL(5)229 – Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hepgoriadau o’r
Gofrestr a Gyhoeddwyd) (Cymru) 2018
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 38 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Mae adran 38(1) o’r Ddeddf yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr o ddarparwyr gwasanaethau. Mae adran 38(2) o’r Ddeddf yn nodi’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn cofnod ar y gofrestr mewn cysylltiad â darparwr gwasanaeth. Mae adran 38(5)(a) o’r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i hepgor gwybodaeth ragnodedig o’r gofrestr a gyhoeddwyd o dan amgylchiadau rhagnodedig.
Mae rheoliad 3 yn nodi’r wybodaeth y caiff Gweinidogion Cymru ei hepgor o’r gofrestr a gyhoeddwyd a’r amgylchiadau pan gânt wneud hynny.
Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol
(Cymru) 2016
Fe’u gwnaed ar: 11 Mehefin 2018
Fe’u gosodwyd ar: 13 Mehefin 2018
Yn dod i rym ar: 04 Gorffennaf 2018